Sep 15 2008 Gan Mark Currie
Sgoriodd Jefferson Louis ddwywaith wrth i Wrecsam sicrhau buddugoliaeth yn Uwchgynghrair Blue Square ar y Cae Ras.
Yr ymwelwyr oedd wedi myn ar y blaen yn dilyn gôl gynnar Neil Barrett gyda'r golwr Gavin Ward ar fai am yr ail gêm gartref yn olynol.
Ond roedd Wrecsam yn gyfartal wedi i Louis rwydo yn dilyn croesiad Tom Kearney.
Wedi'r egwyl sgoriodd Louis eil ail gyda peniad yn dilyn croesiad Shaun Whalley ac fe sgoriodd Simon Brown o'r smotyn ar ôl cael ei lorio gan Darius Charles.
Roedd y munudau olaf yn rhai nerfus i Wrecsam pan sgoriodd Michael Gash gôl gysur hwyr i'r ymwelwyr.