'Roedd yn rhaid i Little adael' - Geoff Moss

DYWEDODD perchennog clwb pel-droed Wrecsam fod yn rhaid i'r rheolwr Brian Little adael ar ol y dechrau tila i'r tymor.

Cyfaddedodd Geoff Moss ei fod wedi gwneud camgymeriad wrth apwyntio Little fel rheolwr.

Daeth y newyddion fod Little wedi gadael ychydig oriau cyn i'r Dreigiau gael gem gyfartal 1-1 gartref yn erbyn Torquay United ddydd Sadwrn.

Er fod y cefnogwyr wedi datgan eu pryder ynglyn a diffyg steil y tim wrth chwarae, pwysleisiodd Moss fod ymadawiad Little wedi bod yn un cyfeillgar.

Dywedodd fod Little wedi gadael y clwb ddydd Gwener yn ddi-rwgnach ar ol i'r Dreigiau ddisgyn i'r 14eg safle yng nghynghrair Blue Square Premier.

Meddai Moss: "Mae Brian yn rwystredig iawn yn ogystal - roedd o'n benderfyniad unol gan y ddwy ochr ein bod ni'n teimlo fel gwneud newid.

"Nathon ni ddim ei sacio a nath o ddim ymddiswyddo. Roedd o'n gyfweliad hyfryd rhwng dynion bonheddig ac roedd pawb mewn hwyliau da."