Oct 2 2008 Gan Daily Post
DEAN Saunders yw rheolwr newydd clwb pel-droed Wrecsam.
Roedd Saunders ar y Cae Ras ddydd Mawrth pan ddywedwyd ei fod o'n gwneud gwaith ymgynghorol.
Mae'n olynu Brian Little a adawodd y clwb ddydd Sadwrn.
Credir y bydd Saunders yn parhau a'i rol gyda thim cenedlaethol Cymru.
Dywedodd cadeirydd y clwb, Geoff Moss: "Dwi wrth fy modd o gael rhywun mor adnabyddus a Dean
"Yn y dechrau fe ofynnais yn unid iddo roi cyngor imi ar agweddau gwahanol o'r clwb ond ar ol sgyrsiau hir gyda fo fe sylweddolais fod hyn yn rhywbeth ei fod o eisiau fod a rhan ynddo. Mae ei frwdfrydedd yn heintus ac mae'r hyn y gall o gyfrannu yn gyffrous iawn.""