Shane yw Personoliaeth y flwyddyn

SHANE Williams yr asgellwr rygbi rhyngwladol sydd wedi ei ddewis yn bersonoliaeth chwaraeon y flwyddyn yng Nghymru.

Aelodau'r cyhoedd oedd yn dewis yr enillydd yng nghystadleuaeth BBC Cymru nos Sul.

Daeth y feicwraig Nicole Cooke, enillydd medal aur yn y gemau Olympaidd, yn ail a'r bocsiwr, Joe Calzaghe yn drydydd.

Yn ogystal â bod yn aelod allweddol o dîm camp lawn Cymru yn 2008, fe lwyddodd Williams i dorri record Gareth Thomas ar gyfer y nifer mwy o geisiadau i Gymru.

Dywedodd Shane ei bod wedi bod yn flwyddyn anhygoel.

Chwaraeon Cymru

Daily Post Cymraeg

Coroni Man U yn bencampwyr

CORONWYD Manchester United yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr dros y Sul am y trydydd tro o'r bron, a'r 18fed tro yn eu hanes. Read

Cymru 0 Y Ffindir 2

IE, yr un hen stori oedd hi efo tîm pêl-droed Cymru yn eu hymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Colli gêm gartref y dylid fod wedi ei hennill. Read