Coroni Man U yn bencampwyr

CORONWYD Manchester United yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr dros y Sul am y trydydd tro o'r bron, a'r 18fed tro yn eu hanes.

Sicrhaodd dîm Syr Alex Ferguson y pwynt yr oedd ei hangen arnynt i ennill y bencampwriaeth ar ôl gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Arsenal.

Dyma’r tro cyntaf iddynt gael eu coroni’n bencampwyr ar eu tomen eu hunain, ac felly roedd cryn ddathlu yn Old Trafford ddydd Sadwrn.

Mae Man Utd rwan yn paratoi ar gyfer ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Barcelona nos Fercher nesaf.

Un o chwaraewyr y tymor i United eleni oedd y Cymro, Ryan Giggs, ac er mai dim ond mewn tua dwsin o gemau y bu ar y cae o’r cychwyn, daeth ymlaen fel eilydd mewn nifer o gemau tyngedfennol gan newid cwrs y gêm o blaid United. Oherwydd hynny, enillodd bleidlais ei gyd-chwaraewyr proffesiynol fel Chwaraewr y Flwyddyn.

Chwaraeon Cymru

Daily Post Cymraeg

Coroni Man U yn bencampwyr

CORONWYD Manchester United yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr dros y Sul am y trydydd tro o'r bron, a'r 18fed tro yn eu hanes. Read

Cymru 0 Y Ffindir 2

IE, yr un hen stori oedd hi efo tîm pêl-droed Cymru yn eu hymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd. Colli gêm gartref y dylid fod wedi ei hennill. Read