Criced: Pwy oeddech chi'n gefnogi?

SICRHAODD tîm criced Lloegr gêm gyfartal yn erbyn Awstralia yn y prawf cyntaf a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yr wythnos dwytha.

Mewn diweddglo cyffrous, llwyddodd dau fatiwr olaf Lloegr i rwystro ymdrechion bowlwyr Awstralia i’w cael nhw i gyd allan, gan ei gwneud yn gêm gyfartal – ar bapur o leiaf.

Ond doedd hi ddim mor gyfartal o ran y chwarae ei hun. Mewn ymateb i gyfanswm Lloegr o 435 yn eu batiad cyntaf, sgoriodd Awstralia 674-6 dec, gyda phedwar o’u batwyr yn sgorio dros 100 yr un. Ar ddiwedd y chwarae roedd Lloegr wedi cyrraedd 252-9 yn eu hail fatiad.

Dyma’r tro cyntaf i gêm brawf griced gael ei chynnal yng Nghymru, ac roedd cryn ddadlau ynglyn â dewis Caerdydd dros Fanceinion neu ddinas arall yn Lloegr.

Dadl sawl un oedd mai Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ydy teitl corff llywodraethu’r gêm, ac felly nid oedd dim o’i le mewn dewis Caerdydd.

Ond Lloegr ydy enw’r tîm, nid Lloegr a Chymru, ac mae’r cwestiwn wedi codi unwaith eto yma: Pam fod rhai Cymry’n dewis cefnogi Lloegr mewn criced, lle na fydden nhw’n breuddwydio gwneud hynny mewn unrhyw gêm arall, fel pêl-droed neu rygbi?

Oeddach chi’n falch fod Lloegr wedi cael gêm gyfartal yn erbyn Awstralia, neu oeddach chi’n fflamio nad oeddan nhw wedi cael cweir yn y gêm brawf gyntaf yma yng Nghymru?

Gadewch i ni wybod.