COLLI fu hanes pob un o dimau Cymru yn eu gemau Ewropeaidd diweddar.
Collodd Bangor o 0-2 oddi cartref yn erbyn FC Honka o’r Ffindir nos Iau, yng Nghynghrair Ewropa, ond roedd eu rheolwr Neville Powell yn dal yn obeithiol y gallai ei dîm achub y gêm yn yr ail gymal yr wythnos nesaf. Ar y Cae Ras, Wrecsam fydd y gêm honno, nos Iau (Gorffennaf 23).
Rhyl oedd â’r dasg anoddaf o holl dimau Cymru, yn erbyn Partizan Belgrâd, ond roeddent wedi gobeithio rhoi gwell sioe ohoni nag a wnaethant. Colli o 4-0 oedd eu hanes ar faes Belle Vue, ac fe fydd yn anodd iawn cadw’r sgôr i lawr yn yr ail gymal yr wythnos nesaf.
O’r gemau eraill a chwaraewyd yn ddiweddar, mae’n debyg mai’r Seintiau Newydd oedd â’r cyfle gorau o fynd drwodd i’r rownd nesaf. Roeddent wedi sicrhau gôl oddi cartref pan gollasant o 2-1 yn erbyn Fram o Wlad yr Iâ. Ond dyna oedd y sgôr yn yr ail gymal hefyd – gyda Fram yn sgorio dwy gôl yng nghartref y Seintiau i’w gwneud hi’n 4-2 ar gyfanswm goliau.
Roedd Llanelli wedi ennill o 1-0 yng nghartref y tîm o Uwchgynghrair Yr Alban – Motherwell. Ond, a bod yn onest, roedd Llanelli wedi synnu mwy na neb efo’r canlyniad hwnnw. Colli o 3-0 oedd eu hanes yn yr ail gymal ar Barc y Sgarlets.
Felly oni bai fod Rhyl yn sicrhau gwyrth ym Melgrâd, ac oni bai fod Bangor yn gallu efelychu Lasarus ers talwm, mae gobeithio timau Cymru yn Ewrop ar ben am dymor arall... a hynny cyn i’r tymor ddechrau go-iawn!