Mae cwmni Arriva buses Wales am anrhydeddu 15 o chwaraewyr rygbi blaenllaw Cymru drwy enwi bysiau newydd ar eu hôl. JPR Williams fydd un'r rhai i'w hanrhydeddu, ac mi fydd ym Mangor i weld ei enw mewn goleuadau ar ei fws Arriva ei hun.
Mi fydd y cyn-chwaraewr rhyngwladol, a oedd yn chwarae i'r tîm cenedlaethol yn y 70au, yn gweld ei enw ar y bwrdd cyrchfannau. Mi fyedd ei enw hefyd ar ochr y bws, ac ar blac tu fewn i'r bws.
Mi fydd hefyd bysiau wedi eu henwi ar ôl Shane Williams, Gethin Jenkins, Gareth Edwards, Barry Johna Robin McBryde.
Penderfynwyd ar yr anrhydeddau ar ôl i Arriva benderfynu dathlu buddsoddi £2 filiwn ar fysiau newydd i Fangor drwy ofyn i'r cyhoedd enwebu'r chwaraewyr rygbi gorau Cymru i ymuno â thîm Arriva o enwogion rygbi.