Aug 12 2008 Kelly Fenna
Mi geisiodd dyn ddenu grŵp o enethod ifanc i mewn i'w gar drwy gynnig danteithion iddynt tu allan i barc yng Nghaernarfon.
Roedd y plant yn chwarae ar laswellt yn Gallt y Sil ar nos Wener pan ddaeth y dyn atynt.
Derbyniodd rhai o'r plant y danteithion ond rhedasant i ffwrdd pan geisiodd y dyn eu cipio.
Mae'r heddlu yn cadw golwg manylach ar yr ardal, ac yn gwneud ymholiadau ac yn rhybuddio plant i beidio siarad gyda phobl ddieithr.
Neithiwr dywedodd rhieni eu bod yn ofn y gallai'r dyn ymosod eto.
Dywedodd rhai o drigolion ystad Gallt y sil fod rhywun wedi ceisio gwthio dynes yn ei 50au i mewn i'w gar ychydig o fisoedd yn ôl.
Meddai dyn na ddymunai cael ei enwi; “Ychydig o wythnosau yn ôl ceisiodd dau ddyn dynnu dynes i mewn i gar coch, ac rwan mae hyn wedi digwydd. Mae'n codi ofn.”
Disgrifir y dyn fel gwyn yn ei 20au, gyda barf goatee coch. Roedd yn siarad gyda acen Seisnig.
Roedd ei gar yn ddu gyda ffenestri wedi eu tywyllu, ac efallai seddau coch.