Aug 13 2008 By Steve Bagnall
Bu taid yn wael gyda llosgiadau difrifol ar ôl i dân ddinistro ei gartref ddoe.
Pnawn ddoe difrodwyd cartref Ainsley Pierce yn Brushwood Avenue, Y Fflint gan y tân, a aeth trwy'r tŷ yn gyflym.
Aethpwyd â Mr Pierce, a oedd yn ei 50au neu 60au, i Ysbyty Glan Clwyd am driniaeth argyfwng i losgiadau i 60% o'i gorff.
Gwelodd ei gymydog ef yn gorwedd yn anymwybodol ac wedi ei anafu'n ddifrifol yn ei ardd flaen, a gyrrodd am y gwasanaeth tân, a bu rhaid i drigolion y cartref nesaf symud allan rhag ofn i'r tân ymestyn ond roeddynt yn gallu dychwelyd yn hwyrach.
Ddoe roedd y gwasanaeth tân a'r heddlu yn archwilio'r tŷ i ddarganfod achos y tân, ac i edrych â oedd unrhyw amgylchiadau amheus.