Aug 20 2008 By Kelly Fenna
Mae hi wedi bod yn wythnos annifyr i un gafr fanyw o Ben y gogarth.
Mae'r anifail wedi treulio dros pump noson yn sownd ar silff gannoedd o droedfeddi uwchlaw y tramffordd yn Llandudno.
Roedd trigolion y dref yn gofidio am ddiogelwch yr afr ar ôl i'r afr adael y ddiadell a chrwydro i'r silff uchel.
Ym mis Ebrill achubwyd geifr ifanc gan yr RSPCA a'r Gwasanaeth Tân, ond tro yma nid yw'r wardeiniad am ymyrryd, rhag ofn iddynt ei dychryn a'i hachosi i ddisgyn.
Mae swyddogion Cyngor Conwy yn cadw golwg ar y sefyllfa, ond mae trigolion eisiau i rywbeth gael ei wneud i achub yr afr.
Dywedodd John roberts, sy'n byw gerllaw; “Pan welais yr afr ar ddydd Gwener ni chymerais lawer o sylw, oherwydd maent yn aml yn mynd yn sownd, ond yn cael hyd i ffordd allan.
“Ond pan welais i hi yno yn yr un lle y diwrnod wedyn a'r diwrnod ar ôl hynny, sylweddolais nad oedd yn gallu dod i lawr.
Cysylltais â wardeniaid y parc, a dywedasant nad oedd dim y gallasant ei wneud, a buasent yn achosi gofid i'r afr pe buasent yn ceisio ei hachub.”
Meddai John; “Mae'r wardeiniaid a'r RSPCA wedi defnyddio ystolion mewn sefyllfeydd tebyg cynt, felly ni welaf pam na allent y tro yma. Mi ddylient wneud mwy o ymdrech.”
Nid oedd wardeiniaid y parc ar gael ddoe i wneud sylwadau, ond dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy; “Mae'r RSPCA a wardeiniaidcefn gwlad Conwy yn ymwybodol o'r pryderon ac yn cadw golwg ar y sefyllfa.”