Storm yn dinistro 30 o gychod

Neithiwr roedd perchnogion cychod yn cyfri'r gost ar ôl i storm ddinistro 30 o gychod ar arfordir Gwynedd.

Crewyd tonnau uchel gan gorwyntoedd a gwasgedd atmosfferig isel, gan daro dingis hwylio ar draeth Abersoch, ger Pwllheli.

Tynnwyd rhai ohonynt o'u trelar a'u gyrru i'r môr wrth i donnau chwe troedfedd daro drostynt ymysg gwyntoedd 45 milltir yr awr.

Roedd rhaid i wylwyr y glannau alw'r perchnogion yn ôl i'r lan wrth iddynt fynd i mewn i'r môr i geisio achub eu cychod ar nos Lun.

Ymysg y 30 o gychod wedi eu difetha oedd llawer o gychod hwylio Mirror Class, yn werth llawer o filiedd o bunnoedd yr un, adisgwylir i'r costau atgyweirio fod tua £15,000.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau; “Cawsom alwad tua 10.15 yn y nos o'r South Caernarfonshire Yacht Club yn dweud fod nifer o bobl yn y dŵr ymysg y tonnau yn ceisio achub eu dingis a chychod.

“Roedd rhaid i ni yrru tîm yno i berswadio pobl i ddod allan o'r môr er mwyn eu diogelwch.

Roedd corwynt cryfder wyth a thonnau rhwng un a dau fedr o uchder – eithaf dychrynllyd!”

Dywedodd Peter Richards, capten yr SCYC bore ddoe cyn y ras: “Mae tua pump neu chwech o gychod wedi cael eu difrodi fel na allent rasio, ac mae'n bosib bod un arall ar goll, ond ni fyddem yn sicr tan ddaw'r perchenog.”

Related Tags