Buwch yn achosi anrhefn ar yr A55

Galwyd heddlu arfog pan grwydrodd fuwch ifanc ar yr A55 gan greu anrhefn ac ofnau damwain ar y ffordd.

Gwelwyd y fuwch ar ochr y lôn, ac wedyn dechreuodd neidio o gwmpas ar y ffordd.

Bu rhaid i geir heddlu gau y lonydd i gyfeiriad y dwyrain i fyny allt Rhuallt ger Llanelwy, tra roedd helicopter yr heddlu yn dilyn y fuwch.

Bu rhaid i'r traffig arafu i un lon gan greu oedi. Gwnaethpwyd y galwad gyntaf am 9.06yb yn dweud fod “tarw du” ar allt Rhuallt o'r A55 ger cyffordd y lonydd Waen a Rhuddlan.

Ar ôl hanner awr aeth y fuwch i ffwrdd o'r lôn ac i le coediog.

Daeth y ffermwr, John Williams, i'r fan a gwelodd lle roedd y fuwch wedi dod allan ac atgyweiriodd y ffens. Roedd y fuwch yn amlwg wedi ail-ymuno â'r gweddill o'r ddiadell, oherwydd pan gyfrifodd Mr Williams ei wartheg roeddynt i gyd yno.

Dywedodd Mr Williams ei fod yn wyrth na anafwyd neb.

Related Tags