Grwp meithrin Gaiman yn dathlu penblwydd

Dathlodd Ysgol Feithrin y Gaiman ym Mhatagonia ei phenblwydd yn 15 oed dydd Sadwrn diwethaf.

Cynhaliwyd gorymdaith drwy'r dref yn ystod Gwyl penblwydd y Gaiman (Aniversario de Gaiman) efo arddangosfa i blant ysgolion meithrin o´r ardal.Wedyn aethpwyd am dro o gwmpas y pentre i weld hen adeiladau. Dyma'r tro cyntaf i'r ysgol feithrin wneud hyn.

Cyflwynodd Gabriel Restucha, Maer y dref, rodd o lyfrau Cymraeg a chryno ddisgiau a gafodd gan Mudiad Ysgolion Meithrin yn Eisteddfod Caerdydd i'r plant.