Diffodd goleuadau stryd er mwyn arbed arian

Mae cyngor Powys wedi penderfynu diffodd goleuadau stryd i arbed arian.

Ar y funud mae'r unig un o'r siroedd Cymreig i wneud hyn, ond fe all eraill ddilyn yr esiampl hon.

Mae Powys eisoes wedi dechrau diffodd rhai goleuadau mewn ymateb i godiad o gostau pwer o 36%.

Fe ellir diffodd dau allan o bob tri o'r goleuadau mewn ardaloedd nad ydynt yn sensitif dros chwech wythnos, ond ni wneir hyn mewn ardaloedd dan archwiliad camerau cylch cyfyng, croesfannau i gerddwyr, prif lonydd ac wrth ymyl syrjeris meddygon.

Disgwylir i fil goleuo Powys godi £175,000 i £500,000. Mae'r cyngor yn gobeithio arbed £225,000.

Dywedodd y Cyng Gwilym Evans; “Roeddem wedi cysidro goleuo am ran o'r nos yn unig, ond oherwydd y raddfa o godiad mewn cost ynni a'r amser i gario allan y gwaith, bu rhaid cymryd camau mwy radical.

“Penderfynwyd mai'r unig ffordd i gadw at y cyllid oedd diffodd y rhan fwyaf o'r goleuadau mewn rhai ardaloedd. Mae hyn wedi dechrau.”

Mae cynghorau eraill yn cadw golwg ar sut mae'r arbrawf yn gweithio ym Mhowys cyn penderfynu os fyddent yn gwneud yr un peth.