Car Mickey Thomas “wedi ei ddwyn” yn y stryd nesaf.

Bu rhaid i gyn bêl-droediwr chwerthin pan ddywedodd yr heddlu wrtho fod y car yr oedd yn meddwl ei fod wedi cael ei ddwyn, mewn gwirionedd wedi ei barcio yn y stryd nesaf.

Wythnos diwethaf apeliodd Mickey Thomas, cyn-chwaraewr Cymru a Manchester United am ddychweliad ei gar Volvo, y credodd i fod wedi ei ddwyn ger Anfield.

Ond wythnos nesaf dywedodd yr heddlu wrth ohebydd y Daily Post eu bod wedi cael hyd i'r car, heb ddim difrod, na milltiroedd ychwanegol ar y cloc.

Roedd yn y stryd nesaf i lle credodd Mickey ei fod wedi ei adael, yn agos i'r stadiwm lle bu Lerpwl yn chwarae yn erbyn Manchester United.

“Nid oeddwn yn gallu credu'r peth,” meddai Mickey.

“Ni allaf stopio chwerthin amdano. Rwy'n credu ei fod yn ddigrif iawn.

“Ffoniodd yr heddlu i ddweud fod y car yn gyfan. Toedd dim difrod, ac roedd y milltiroedd ar y cloc fel yr oedd pan adewais y car.

“Pan nad oeddwn yn gallu cael hyd i'r car roeddwn yn credu o ddifrif ei fod wedi cael ei ddwyn.”

Roedd Mickey, 54 oed, yn gweithio i gwmni radio ar ddiwrnod y gêm, a chredodd ei fod wedi parcio yn Sibyl Road.

Pan na welodd y car aeth yn ôl i'r stadiwm i roi adroddiad o'r “lladrad” a ffoniodd ei gyfaill Sean Walsh, cyn arbenigwr yswiriant, i ddod i'w nol.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Glannau Merswy eu bod wedi cael adroddiad fod y car ar goll, ond mae'r log yn dweud fod y car wedi ei ddarganfod yn gyfan ac yn ddiogel.