Sep 26 2008
Colli dros 9 stôn mewn blwyddyn
Sbardunwyd mam a oedd wedi curo cancr i golli bron i 10 stôn am ei bod yn ofni na fuasai'n gallu ffitio i sganiwr MRI.
Roedd gan Eileen McConnell o Landudno ffurf prin o'r salwch ar ei gwddf.
Teimlasai ei bod wedi ei “darostwng” pan oedd hi'n poeni y buasai'n rhy fawr i'r tiwb sganio.
Dywedodd y fam i un, sydd wedi bod yn glir o'r clefyd ers pum mlynedd mai'r sgan oedd y symbyliad iddi golli'r pwysau pan oedd hi'n pwyso 17 stôn.
Ymunodd Mrs Mcconnell gyda'r grŵp Slimming World ym Mae Colwyn, ac mewn blwyddyn collodd naw a hanner stôn.
Dywedodd; “Euthum o faint 26 i faint 10 ar ôl bron i 30 mlynedd o fod yn dew.
“Beth oedd y sbardun go iawn oedd pan oeddwn mewn panig na fuaswn yn gallu ffitio yn y sganiwr i wneud yn siwr nad oedd y cancr wedi dychwelyd.
“Roeddwn yn wylo a phenderfynais gael gwared o'r pwysau.”
Ms McConnell gollodd y fwyaf o bwysau yn ngrŵp Bae Colwyn, ac mae hi ar ei ffordd i'r rownd derfynol genedlaethol yn Swydd Derby, yn cynrychioli Cymru a'r gogledd-orllewin.
Pe choronir hi'n Woman of the Year 2008, mi fydd yn ennill mordaith yn y Caribî i Barbados a St Lucia, neu £5,000.