Sep 29 2008 By Gareth Bicknell
Dywedodd Geoff Moss, perchen Wrecsam y bu raid i Brian Little adael ar ôl dechrau siomedig i'r tymor, gan gyfaddef y gwnaeth gamgymeriad mewn dewis y rheolwr.
Daeth y newyddion allan am ymadawiad Little oriau cyn gêm gyfartal 1-1 rhwng Wrecsam a Torquay United ar ddydd Sadwrn.
Dywedodd Mr Moss fod yr ymadawiad yn gyfeillgar, ac roedd Little wedi gadael ar ddydd Gwener ar ôl i'r clwb ddisgyn o'r Gynghrair ac wedyn i 14fed yn y Blue Square Premier.
Daeth Little i mewn ym mis Tachwedd llynedd, gyda Martin Foyle yn cael swydd fel hyfforddwr.
Dywedodd Mr Moss nad oedd pethau wedi gweithio allan fel y mynnai, ond roedd Brian Little yn ddewis poblogaidd ar y pryd, ac roedd y cefnogwyr yn cytuno ar y pryd.
Mae Little yn gadael ar ôl 44 gêm gyda Wrecsam, ac mae'r clwb wedi colli pump ac ennill pedair gêm yn y Blue Square Premier.
Dywedodd Mr Moss nad oedd y rheolwr yn haeddu yr holl anfri a gafodd gan y cefnogwyr ar ôl i Wrecsam golli 3-0 yn erbyn Rushden and Diamonds dydd Mawrth diwethaf.
“Mae (Mr Little) yn ceisio gwneud ei waith ac ennill ei fara, ac rwy'n credu nad oedd galw am rai o'r pethau a ddywedwyd ar ddydd Mawrth.”
Dywedodd Mr Moss fod cynlluniau ar y gweill am system archebu ticedi ar-linell, siop newydd, lle i deuluoedd, ac ail-lawnsiad cynllun Pêl Droed yn y Gymuned.
Dywedodd fod llawer o bethau da yn digwydd oddiar y cae chwarae, ond mae'n bwysig llwyddo ar y cae yn ogystal.