Merch fach wedi torri'i chalon ar ôl i ladron dwyn ei chŵn

Mae dau gi wedi cael eu dwyn a oedd wedi eu prynu fel anrheg i ferch dyflwydd oed sy'n gwella ar ôl llawdriniaeth i'w phenglog.

Roedd Lola Smith o Dowyn wedi torri'i chalon ar ôl lladrad ei border terriers.

Cymerwyd nhw o dŷ nain Lola yn Walford Avenue, rhywdro rhwng 5 a 6.30 prynhawn Sadwrn.

Bu Lola dan lawdriniaeth dwys i'w phenglog blwyddyn yn ôl, a phrynodd ei nain, Lynne Smith y cŵn fel anrheg i'r ferch ddewr.

Ar ddydd Sadwrn pan aeth Lynne i adael y cŵn i mewn i'r tŷ, gwelodd fod y giat gefn wedi cael ei hagor a fod yr anifeiliaid wedi diflannu. Roedd hi wedi en bwydo tua amser tê, a'u gadael yn yr ardd. Dan ddaeth i'w gadael i mewn yn fuan wedyn nid oeddynt yno.

“Mae'n rhaid fod rhywun wedi dringo dros y wal i gael y cŵn. Roedd y giat wedi ei bolltio.”

Roedd y cŵn yn aros gyda Lynne tra roedd Lola yn gwella o'i llawdriniaeth.

Pan ddaeth Lola a'i thad i fynd â'r cŵn am dro roedd dweud wrthynt yn waith torcalonnus.

Disgrifir y border terriers fel dof iawn. Mae un yn liw glas a than, ac mae'r llall yn “beige”. Roedd y ddau ar fin mynd at y milfeddyg, un gyda haint ar y glust, a'r llall gyda phroblem ar y frest.

Mae'r heddlu'n apelio i unrhyw un gyda gwybodaeth am yr achos i gysylltu gyda swyddogion yn Y rhyl ar 0845 6071001 (Cymraeg) neu 0845 6071002 (Saesneg).

Related Tags