Merch feichiog yn cael ei hanafu gan gar wedi ei ddwyn

Tarawyd merch feichiog ynei harddegau gan gar wedi ei ddwyn, cyn iddo daro i mewn i goeden.

Cafwyd hyd i'r ferch 19 oed yn gorwedd ar y lôn ar ôl iddi chael ei tharo gan y BMW wrth iddi geisio croesi'r lôn ym Mryn y Maen,ger Bae Colwyn yn gynnar ddoe.

Anafwyd yr ymdeithiwr yn sedd flaen y car yn ddifrifol, a neithiwr roedd yn ymladd am ei fywyd yn Ysbyty Glan Cwyd ar ôl y ddamwain ar y B5113 am 3.30yb.

Rhuthrwyd y ddynes ifanc o Fae colwyn, sy'n feichiog ers chwe mis, i'r ysbyty ym Modelwyddan gyda phoenau yn ei bol, a rhyddhawyd yn hwyrach ddoe.

Mae'r heddlu'n archwilio y ddamwain, a ddigwyddodd ar y ffordd wledig yn arwain at Llanrwst, tua hanner milltir o ganolfan yr RSPCA.

Bu rhaid i'r gwasanaeth tân dorri'r drws a tho'r BMW i ffwrdd a rhoi'r ymdeithydd anafedig ar stretsier cyn ei drosgwyddo i'r ysbyty yn fuan ar ôl 6yb.

Soniodd Peter Williams, uwch swyddog heddlu wedi ymddeol, sy'n bwy gerllaw, am pan gurodd gyrrwr y car ar ei ddrws yn fuan ar ôl 3.30yb.

Dywedodd Mr Williams: “Dywedodd dyn yn ei 20au fod ei gyfaill yn sownd mewn car. Roedd gan y gyrrwr ei hun boen yn ei frest ac anafiadau i'w fraich chwith.”

Ffoniodd Mr Williams y gwasanaethau argyfwng cyn gyrru'r gyrrwr yn ôl at lle digwyddodd y ddamwain.

Daeth yr heddlu, parafeddygon a'r gwasanaeth tân gyda goleuadau ac offer torri. Rhoddwyd nwy i'r claf i leddfu ei boen.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu; “Galwyd ni yn fuan ar ôl 3.30yb at ddamwain un car.

“Roedd y car wedi ei ddwyn. Mae'r ymdeithydd gwryw yn yr ysbyty gyda anafiadau sy'n bygwth ei fywyd.”

“Ychwanegodd: “Roedd digwyddiad arall cyn hyn.

“Credir fod y cerbyd wedi taro dynes, a hyn achosodd y ddamwain.”

Dywedodd nad oedd anafiadau'r ferch yn ddifrifol, ac nad oedd yn yr ysbyty neithiwr.

Ddoe arestwyd dyn ar amheuaeth o gymryd y car heb ganiatad, a pheidio rhoi prawf anadl wrth ochr y ffordd. Cadwyd yn y ddalfa neithiw.