Oct 21 2008
Tair wythnos yn ôl bu rhaid i gapten cwch hwylio gael ei achub gan griw fferi, ac rwan mae ei gwch wedi mynd yn sownd dan pier.
Bore Sul chwythwyd cwch Thomas Cragg o dan pier Biwmares, ac ar ôl i'r llanw fynd allan roedd y cwch 36 troedfedd, Planet, yn sownd ar dir.
Roedd criw'r cwch achub, a alwyd tua 7 o'r gloch y bore, yn synnu sut y daeth yno. Dywedodd Derek Lumb, rheolwr gweithrediadau'r RNLI: “Nid ydwyf wedi gweld llawer o gychod o dan y pier.
“Trodd allan ei fod ar ei ffordd i angorfa ym Mae Biwmares pan dorrwyd y ddolen llyw'r cwch yn hwyr ar nos Sadwrn. Roedd y gwynt yn gryf, ac roedd yr hwyliwr, yn sylweddoli na fydd y cwch yn mynd i unlle, wedi aros yno.
“Rhoddwyd tri aelod o'r criw achub ar y cwch a gwnaethasant atgyweiriad dros dro i'r ddolen llyw. Pan ddaeth y llanw i mewn tynnodd y cwch achub y cwch hwylio i'r angorfa.”
Ar Hydref 1af, achubwyd Mr Cragg, 62 oed, o Stoke-on-Trent, gan yr Irish Ferries MV Ulysses.
Roedd ei gwch yn cael ei bwyo gan wyntoedd cryf a thonnau 10 troedfedd, chwe milltir o arfordir Ynys Môn. Roedd y prif bwm wedi torri a'r injan ddim yn gweithio.Taniodd Mr Cragg roced i ddenu sylw, a daeth y llong, yn cario dros 1,000 o deithwyr, i'w helpu.