Oct 24 2008 By Eryl Crump
Bu gyrrwr yn ffodus i ddianc yn fyw ar ôl i'w gar lithro oddiar lôn ar y mynydd a rowlio llawer gwaith i lawr allt serth, gan ei drapio tu mewn i'r car.
Drwy lwc gwelwyd y fan wen, yn perthyn i'r dyn 61 oed o Bwllheli, hanner ffordd i lawr yr allt ger Llangynog.
Gwelodd Anita Jones, o Blaen Rhewarth y fan pan oedd hi ar ei ffordd adref, yn fuan ar ôl 5yh dydd Mercher.
Stopiodd, a chlywodd sŵn gweiddi yn dod o'r fan, felly galwodd am y gwasanaethau argyfwng.
Trosglwyddwyd y dyn, nad yw wedi ei enwi, i Ysbyty Wrecsam Maelor mewn helicopter, gyda posibilrwydd o anafiadau i'w gefn a cholled gwaed. Ddoe roedd yn derbyn llawdriniaeth.
Dywedodd Maelor, gŵr Mrs Jones, fod ei wraig wedi galw am y gwasanaethau argyfwng pan welodd y fan, a daethef gyda'i chwaer, Beryl, a siaradodd gyda'r dyn wrth ddisgwyl am help.
Roedd yn ofni i'r fan ddechrau symud eto, am mai dipyn o eithin oedd yn ei ddal, ac roedd yn dechrau siglo wrth i'r injan dân gyntaf gyrraedd.
Ychwanegodd: “Mae'n lwcus i gael ei weld. Ni chredaf y buasai wedi parhau dros nos. Mae'n oer adeg yma o'r flwyddyn.”
Galwyd parafeddygon a'r gwasanaeth tân at y ddamwain ar y B4391 rhwng Llanfyllin a Llangynog, a bu rhaid galw am helicopter o RAF Y Fali i'w drosglwyddo i'r ysbyty.