Prinder peiriannwyr BT yn peryglu bywydau

Honnwyd gan weithiwr i BT fod y gwasanaeth argyfwng 999 mewn perygl oherwydd prinder parhaol o beiriannwyr teliffôn yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd y peiriannydd ei fod wedi penderfynu siarad allan oherwydd fod y sefyllfa mor ddifrifol.

Dair gwaith wythnos diwethaf ni allasant miloedd o drigolion wneud galwadau ffôn.

Ar ddydd Mercher bu problemau gyda chyfnewidfa ym Mangor a amharodd ar alwadau llinell tir o 17,000 o gartrefi am bron i dair awr.

Roedd y broblem yn effeithio ar gartrefi yn Llandudno a rhannau helaeth o Ben Llŷn, ac mewn argyfwng, mi fuasai rhaid defnyddio ffôn symudol.

Bu problem yn yr un gyfnewidfa y diwrnod canlynol, gan amharu ar hanner y cyfnewidfeydd sy'n gysylltiedig, am adeg byrrach, a bu problem arall am adeg byr ar ddydd Gwener Hydref 17.

Dywedodd y chwythwr chwiban, sydd wedi gofyn am fodm yn ddi-enw: “Mi fuaswn yn teimlo'n flin iawn pe bae cyfaill i mi'n methu cael ambiwlans oherwydd i'r gwasanaeth 999 fod yn methu gweithio.”

Ddoe cyfaddefodd Jason Mann, llefarydd ar ran BT, fod colled o wasanaeth ar ddydd Mercher a dydd Gwener, on nid oedd yn ymwybodol o drafferthion ar ddydd Iau.

Gwadodd fod prinder o beiriannwyr, a dywedodd fod y problemau wedi eu cywiro gan beiriannwyr lleol.

Dywedodd yr heddlu fod ganddynt gynlluniau wrth gefn,ac ni fethwyd unrhyw alwadau 999.

Meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans: “Dydd Gwener oedd yr unig ddiwrnod pan oeddem wedi ein heffeithio. Pan mae trafferthion gyda'r llinell ffôn, mae'r galwadau'n cael eu hail-gyfeirio i ganolfannau rheoli eraill drwy Gymru.”


Related Tags