Oct 28 2008 Gan Steve Bagnall
Swyn
Mae Cyngor Wrecsam wedi cofnodi cannoedd o gwynion am sŵn eleni, gyda'r achosion arferol fel cŵn, cerddoriaeth uchel a theledu swnllyd ar y brig.
Ond yn Wrecsam mae cwynion hefyd am geiliogod yn canu, pobl yn gwneud gwaith DIY, a cherdded ar loriau wedi eu lamineiddio, ac hyd yn oed clychau eglwys gerllaw.
Ar gyfartaledd mae'r cyngor yn derbyn 600 o gwynion y flwyddyn, gyda rhai yn dod o anghytundeb rhwng cymdogion.
Mae rhai cwynion yn cael eu datrys drwy gyfryngu, tra mae eraill yn cael eu dosbarthu fel ymddygiad anghymdeithasol ac yn cael eu cyfeirio at yr heddlu neu'r partneriaeth diogelwch cymunedol. Dim ond lleiafrif bychan iawn sy'n mynd o flaen llys, meddai Helen Cook, uwch swyddog iechyd yr amgylchedd yn Wrecsam.
Dywedodd: "Mae niwsans sŵn yn fater goddrychol iawn, a gall beth sy'n sŵn i un person fod yn bleserus i un arall, ond rheol gyffredin i'w ddefnyddio yw gofyn os yw'r sŵn yn ormodol, ac â fuasai'r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried yn afresymol.
"Mae llawer o'r cwynion am sŵn yn dod o anghytundeb rhwng cymdogion a fe ellir osgoi llawer ohonynt pe bae cymdogion yn siarad mwy gyda'i gilydd.
"Pan mae pobl yn cyd-dynnu maent yn fwy goddefgar ac yn barod i ddeall eu gilydd ond mae'r gwahaniaethau mewn ffyrdd o fyw yn arwain at anhawsterau rhyngweithio."
Mae swyddogion amgylcheddol Wrecsam yn ceisio cadw cytbwysedd rhwng addysgu a gorfodi, ond mae ambell i achos lle mai erlyn yw'r unig ddewis.