Nov 26 2008 by Eryl Crump, Daily Post
BYDD bustach yn cael ei werthu i godi arian i hosbis T Gobaith yn ystod Sioe Aeaf Llanelwedd yr wythnos nesaf er cof am fachgen ifanc.
Bu farw Steffan Wynne Thomas, 14, o Langefni, ar ôl brwydr hir yn erbyn afiechyd blin Crohn’s ac epilepsi.
Mae Dylan Jones, sy’n ffermio yn Tynlon, ger Llangefni, yn gefnder i’w dad Kevin a bydd yn gwerthu Belgian Blue x Limousin, yr olaf o’i wartheg stôr, i godi arian er cof amdano.
Meddai Dylan: “Dangoswyd y bustach llynedd yn y Sioe ac fe ddaeth yn bedwerydd mewn dosbarth mawr iawn ac ers hynny rydym wedi ei alw’n Bustach Steffan. Roedd yn amser trist i ni, roedd Steffan newydd farw ac fe gadwyd yr anifail ymlaen.
“Mae blwyddyn wedi pasio ac rydym yn teimlo mai rwan yw’r amser i werthu’r bustach ac fe fydd hanner yr arian yn mynd i T Gobaith er cof am Steffan.”
Cynhelir y sioe yn Llanelwedd ddydd Llun a Mawrth. Mae disgwyl i amryw o ffermwyr ddangos eu hanifeiliaid ym Mona cyn teithio’r 120 milltir i lawr yr A470 i Lanelwedd.
Eleni fydd yr eildro i’r Sioe ym Môn ymestyn i ail ddiwrnod. Bydd cystadlaethau ceffylau yn cael eu cynnal o ben bore dydd Gwener. Bydd y pencampwr yn derbyn cwpan Sialens Pentaran.
Dydd Sadwrn bydd y gwartheg, yn a moch yn cystadlu yn y prif adeilad. Dywedodd y trefnydd Aled Hughes bod disgwyl cystadlu brwd ymysg y gwartheg am Dlws Coffa Owain Robert Jones ac ymhlith yr yn am Cwpan Amaethyddol Bibby.
Bydd cystadlaethau eraill, fel coginio, crefftwaith, a chynnyrch fferm, yn y Neuadd Fwyd.
Mwy o fanylion am Sioe Aeaf Môn ar 01407 720072, ac am Sioe Aeaf Llanelwedd ar 01982 553683