Ffrwydriad nwy yn ysgwyd stryd.

Bu ffrwydriad nwy mewn tŷ ddoe, gan chwilfriwio ffenestri, dim ond munudau ar ôl i blant fynd heibio, ar eu ffordd i'r ysgol yn Yr wyddgrug.

Digwyddodd y ffrwydriad yn Stanley Street, gan achosi i nenfwd yr ystafell fyw i ddisgyn, a chracio'r waliau flaen y tŷ.

Aethpwyd â David Roberts, glanhawr ffenestri 41 oed, i'r ysbyty gyda llosgiadau i'w ddwylo ar ôl y ffrwydriad yn nhŷ ei rieni, a achoswyd gan oleuo sigaret.

Ni anafwyd ei rieni yn y ffrwydriad a ysgydwodd y stryd gyfan.

Dychwelodd Mr Roberts i'r Wyddgrug o Ysbyty Wrecsam Maelor gyda'i ddwylo mewn bandais, a treuliodd neithiwr gyda'i rieni David a Margaret, mewn cyfeiriad arall.

Dywedodd Bob Mason o'r gwasanaeth tân eu bod wedi clywed tua 9.30 bore ddoe fod ffrwydriad wedi digwydd, a gyrrwyd criwiau o'r Wyddgrug, Bwcle a Wrecsam, ond pan gyrhaeddasant nid oedd tân, ond roedd ffrwydriad sylweddol wedi digwydd. Nid oedd gwaith nwy yn cymryd lle, ond mae ymholiadau'n parhau.

Dywedodd llefarydd ar ran Wales and West Utilities eu bod wedi derbyn galwad am nwy yn Stanley Street 9 o'r gloch bore ddoe, a gyrrwyd tîm yno, a gyrhaeddodd am 9.25, ond erbyn hyn roedd ffrwydriad eisoes wedi digywdd.

Bu gweithwyr nwy yn y man drwy'r dydd i ddatrys y colled nwy.

Related Tags