Dec 10 2008
Tynnwyd dynes wedi dychryn allan o gar wedi i lori daro'r car mewn damwain taro a ffoi.
Bu rhaid i fachgen 17 oed a aeth i helpu'r ddynes neidio allan o'r ffordd wrth i'r lori wthio'r car Citroen C3 ar y palmant ato, gan daro Astra wedi ei barcio.
Mae'r heddlu'n edrych am y gyrrwr lori ar ôl iddo ffoi yn y cerbyd melyn.
Roedd Kaya Colakoglu, 17 oed, tu allan i siop ei dad, City Newsagents, yn Llanelwy pan welodd y lori'n dod i lawr yr allt.
Tarawodd y lori gefn y Citroen C3 glas, gan ei dynnu a'i wthio ar y palmant, lle tarawodd Vauxhall Astra.
Mi fuasai wedi taro Kaya pe na bai wedi neidio i mewn i'r siop drws nesaf.
Rhedodd Kaya at y Citroen, ac roedd dynes wedi dychryn ynddo, a daeth â hi i mewn i siop ei dad.
Dywedodd gweithiwr yn y siop bapurau newydd y clywodd y tarawiad tua 1.40 ar brynhawn Llun a phan aeth allan gwelodd fod car glas wedi ei barcio wedi cael ei wthio at gar arall, ac aeth y gyrrwr lori yn ei flaen heb falio fod posibilrwydd fod rhywun wedi ei anafu.
Ddoe symudwyd y ddau gar wedi eu difrodi o'r lle, ac mae'r heddlu'n apelio am dystion, a chredir mai lori felyn gyda chefn fflat oedd y cerbyd.