Currys a Dixons yn gwrthod dosbarthu nwyddau i Ynys Môn

Mae dwy gadwyn manwerthu cenedlaethol wedi gwrthod dosbarthu nwyddau mawr i Ynys Môn.

Er fod yr ynys wedi ei chysylltu i'r tir mawr gan ddwy bont enwog, mae Currys a Dixons yn cynnwys Ynys Môn gyda Ynys Manaw ac ynysoedd Scilly fel llefydd na allent dosbarthu rhai eitemau mwy.

Mae gan Currys siop ar Caernarfon Road, ym Mangor, sydd ychydig dros filltir o bont Britannia a phont grog Menai, sy'n croesi culfor Menai.

Dywedodd Ieuan Wyn Jones, AC Ynys Môn fod gwybodaeth daearyddol y cwmnïau'n wallus, ac mae wedi ysgrifennu at brif weithredydd y cwmni DSG International, sydd biau'r ddau gwmni i ofyn iddynt ailgysidro.

Mae pont grog Thomas Telford wedi cysylltu'r ynys i'r tir mawr ers 1826, ac agorwyd pont Britannia Robert Stephenson i greu cysylltiad rheilffordd rhwng Caergybi a Llundain ym 1850.

Er gwaethaf hyn mae Dixons a Currys yn dosbarthu Ynys Môn gyda ynysoedd a ellir eu cyrraedd ar gwch neu mewn awyren yn unig.

Mae safleoedd wê'r ddau gwmni yn dweud na allent ddosbarthu rhai nwyddau i Ynys Manaw, Ynys Môn, ynysoedd Scilly, ac ynysoedd yn yr Alban.

Nid oedd neb ar gael o Dixons na Currys i wneud sylwadau ddoe.