Dec 17 2008 by Eryl Crump, Daily Post
CHWYLDRO mawr Rwsia 1917 yw cefndir Petrograd, nofel newydd yr awdur of Fangor, Wiliam Owen Roberts.
Ond, yn wahanol i’w nofelau hanesyddol eraill, Paradwys a Y Pla, cefnlen yn unig yw’r digwyddiadau, yn Petrograd. Canolbwyntia’r nofel ar ei chymeriadau o uchelwyr cyfoethog, ac ar adrodd y stori o safbwynt y fyddin wen.
Dilynwn Alyosha a’i ddwy gyfnither, Margarita a Larissa, wrth i’r newid byd dychrynllyd eu taro a gweddnewid eu bywydau nhw, a’u teuluoedd, mewn modd na allent fod wedi ei ragweld byth. Caiff y cymeriadau i gyd eu gwthio i’r pen, wrth wynebu alltudiaeth, y fyddin goch a’r Cheka, a phob un yn gorfod aberthu eu gwerthoedd a’u moesoldeb er mwyn goroesi.
Dywedodd Wiliam: “Mae hi am sut ma’ bywyda’ pobol yn gallu cael eu newid. Ma’ bywyda’ pobol i gyd yn igam-ogam tydi, ond ma’ rhai petha’n digwydd weithia’, fatha chwyldro, sy’n wirioneddol newid ’ych bywyd chi.
“O’n i’n benderfynol o beidio sgwennu o safbwynt y bobol ’nath ennill. Ma’n debyg mai am ’mod i’n Gymro Cymraeg; ma’ sgwennu o safbwynt y bobol sy’ wedi cael eu concro a’u hambygio mewn hanes yn llawer iawn difyrrach na’r rhai sy wedi ennill. Ac ma’ problema’ pobol felly gymaint â hynny’n waeth. Achos bo’ ni mor ddi-rym, ma’n sefyllfa ni yn cynnig mwy o botensial.”
Ychwangeodd: “Nes i gynllunio hon yn wahanol. O’r blaen dwi ’di cynllunio plot, ond dwi ’di mynd ar ôl y cymeriada’ tro ’ma, a wedyn gweithio’r stori drwy hanes eu bywyda’ nhw. Dwi’n canolbwyntio ar brofiad yr unigolyn, ac yn osgoi y dimensiwn mawr. ’Da chi’n gweld digwyddiad cataclysmig fel y chwyldro, ond ma’n digwydd oddi ar y llwyfan, fel petai, a ’da chi’n gweld’i effaith o ar grp o gymeriada’.”
Datblygodd diddordeb William yn Rwsia a’i hanes dyrys dros blynyddoedd lawer. Bu’n astudio Chekov a Gorky yn y coleg, ac mae wedi ei drwytho ei hun yng ngwaith Dostoyevsky. Ar ben hynny, bu’n ymddiddori mewn syniadaeth Farcsaidd erioed, ac wedi teithio’n aml yn nwyrain Ewrop.
“Ma’ gen i ddiddordeb yn y rhan yna o’r byd, ac ma’ di tyfu," dywedodd.
l Petrograd, Barddas £11.95