Jan 5 2009 Gan Tom Bodden
Mae tad i ferch a laddwyd ar ôl i lori fynd i mewn i gar ar yr A55 wedi condemnio penderfyniad y Cynulliad i beidio adeiladu llain galed ar y lôn.
Roedd Joey Clark, 37 oed, a'i wraig Ellen, 31, a'u plant Chloe a Chelsea ar eu ffordd adref ar ôl ymweld â pherthnasau ym Manceinion pan dorrodd eu car i lawr ar allt Rhuallt ym mis Chwefror llynedd.
Nid oedd y goleuadau rhybudd yn gweithio yn y car, ac roedd Chloe'n cysgu yng nghefn y car pan aeth y lori, yn cael ei yrru gan Edward Kicinski, gyrrwr lori o Wlad Pwyl, i gefn y car, a glirwyd yn ddiweddarach o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Ers hynny mae gwleidyddion ac uwch swyddogion heddlu wedi galw am osod llain galed ar ochr yr A55 i arbed trasiedïau tebyg.
Ond mae'r gobeithion hyn wedi eu chwalu gan Ieuan Wyn Jones, dirpwy brif weinidog Cymru, sydd wedi gwrthod y syniad o osod llain galed oherwydd costiau. Yn lle hynny mi fydd yn trefnu timau arbennig i ymateb i ddamweiniau, i weithredu fel cynllun peilot o fis Ionawr, yn gofalu am y twnelau.
Dywedodd Mr Clark ddoe: “Mae'n warthus. Maent yn gosod arian o flaen bywydau. Mae gymaint o ddamweiniau wedi digwydd. Rydym yn galw am lleiniau caled ar yr A55.
“Mi ddylient eu hadeiladu ar Allt Rhuallt. Mae angen lleiniau caled yn ogystal â chamau eraill i sicrhau diogelwch. Ni fydd y timau ymateb i ddamweiniau'n mynd i atal damweiniau.”
Dywedodd Ieuan Wyn Jones y buasai gosod llain galed o Gaer i Gaergybi'n costio canoedd o filiynau o bunnoedd, ac felly'n annhebygol yn y dyfodol agos, ac nad yw'n arferol cael lleiniau caled ar ffyrdd ddeuol, ond mi fuasai gan y timau ymateb rôl tebyg i rôl swyddogion priffyrdd ar draffyrdd Lloegr.
Dywedodd y dirpwy brif weinidog Cymru fod yr A55, er yn cario llawer o draffig, yn dioddef o lai o ddamweiniau na priffyrdd tebyg, ond mae cynlluniau gwella ar y gweill.