Haeriad fod dringwyr yn peryglu noddfa bywyd gwyllt

Mae heddlu'n archwilio cyhuddiad fod dringwyr yn tynnu coed a pherthi ar noddfa bywyd gwyllt.

Ers tua ugain mlynedd ni chaniatawyd dringo ar Graig y Forwyn yn Rhyd y Foel, ger Abergele, ac mae'n noddfa i ystlumod, adar ysglyfaethus a thegeiriannau.

Ond yn ddiweddar rhoddwyd caniatâd i ddringwyr yr yr ardal, a chredir eu bod yn gyfrifol am glirio planhigion o'r wyneb calchfaen.

Dywedodd Sarsiant Rob Taylor, swyddog amgylchedd a bywyd gwyllt Heddlu Gogledd Cymru fod problemau wedi codi yn sgil adnewyddu'r hawl i ddringo ar Graig y Forwyn, ac mae'r heddlu'n archwilio'r ffaith fod llawer o goed wedi eu clirio o'r safle, oherwydd fe all trosedd fod wedi ei gyflawni o dan ddeddfau amgylcheddol.

Dywedodd Leslie Edwards o Gyngor Cefn Gwlad Cymru ei fod yn cefnogi archwiliad yr heddlu i gyhuddiad fod difrod wedi ei wneud i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Ond dywedodd Tina Gardner o'r British Mountaineering Council nad oedd wedi clywed am glirio planhigion o'r safle hab awdurdod, a dywedodd fod y BMC yn gweithio gyda grwpiau cadwriaeth. Dywedodd y bu dadl am berchnogaeth y clogwyn rhwng dau berchen tir ond mae gan dringwyr ganiatâd rwan i ddringo yno, ac mai dadl am barcio oedd achos colli'r hawl 20 mlynedd yn ôl.