Jan 5 2009 Gan Eryl Crump
Mae tad yn cerdded eto am y tro cyntaf ers iddo gael ei drywanu gan bolyn ffens pum troedfedd mewn damwain car erchyll tair mlynedd yn ôl.
Bu rhaid i Gareth Rhys Williams, o Ynys Môn, dderbyn rhes o driniaeth llawfeddygol i drwsio asgwrn ei forddwyd, a dorrwyd mewn tri lle gan y polyn.
Roedd y dyn 25 oed yn gallu chwarae gêmau gyda'i bedwar plentyn dros y Nadolig.
Dywedodd wrth y Daily Post mai diolch i sgiliau llawfeddygon, nyrsys a parafeddygon Ysbyty Gwynedd oedd am ei welliant.
Pan ddigywddodd y ddamwain ar Ionawr 15, 2006, roedd pethau'n edrych yn ddu am ei obeithion o allu cerdded eto. Wrth yrru ar yr A5 allan o Gaergybi i gyfeiriad y Fali collodd reolaeth o'i gar BMW ar dro, ac aeth i ffens.
Yn ffodus, roedd ceir eraill yn agos, a galwyd am y parafeddygon a'r gwasanaeth tân i'w ryddhau. Llwyddodd y llawfeddygon i dynnu'r polyn allan o'i goes mewn un darn mewn triniaeth yn parhau tair awr.
Bu'n rhaid iddo aros yn yr ysbyty am 10 wythnos, lle derbyniodd o leiaf 10 sesiwn o lawdriniaeth, ac mae'n dal yn glaf allanol.
Dywedodd y llawfeddyg ymgynghorol Graham Whitely ei fod wedi ei syfrdanu gan gyflwr y claf, a bu'n rhaid defnyddio llif saer i dorri'r polyn i lawr fel y gallent cael Mr Williams ar ei gefn i liniaru ei boen. Wedyn bu'n rhaid defnyddio offer arbennig i dynnu'r polyn allan mewn un darn, ac wedyn glanhau'r clwy a thynnu dellt allan, cyn gallu gosod sgriwiau yn y goes.
Ychwanegodd Mr Whitely fod y plisgwisg roedd Mr Williams yn ei wisgo wedi bod o gymorth i gadw'r polyn rhag delltio yn ei goes, a allai fod wedi achosi iddo waedu'n ddifrifol.