Jan 6 2009 Gan Owen Hughes
Achoswyd anrhefn ledled Gogledd Cymru gan y tywydd oer, gyda 79 o ddamweiniau ceir, a trinwyd mwy na 200 o bobl mewn wardiau damweiniau ac achosion brys ar ôl disgyn ar y rhew. Mi fydd 13 o ysgolion yng Nghonwy, Gwynedd a Sir Ddinbych ar gau heddiw oherwydd rhew ar y maesydd chwarae.
Dywedodd llefarydd yn Ysbyty Glan Clwyd wrth y Daily Post nad oedd wedi gweld gymaint o alw o'r blaen am yr adran damweiniau ac achosion brys, ac roedd sefyllfa tebyg yn ysbyty Wrecsam Maelor ac Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd mai glaw ar Ddydd Sul, wedi ei ddilyn gan y gostyngiad sylweddol yn y tymheredd oedd achos y cyflwr peryglus.
Neithiwr disgwylid i'r tymheredd ostwng i -9 gradd neithiwr, gan wneud Gogledd Cymru'n un o'r llefydd oeraf yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r AS Chris Ruane wedi ysgrifennu at y cynghorydd Hugh Evans, arweinydd cyngor Sir Ddinbych, gan ofyn i'r cyngor ymestyn y graeanu i ffyrdd bws, mynedfeydd ysgolion, ysbytai, llefydd gwaith, maesydd parcio a chanolfannau siopa, yn ogystal â phrif lonydd.