Jan 6 2009 Gan Martin Williams
Gadawyd mam anabl allan yn yr oerni gan yrrwr bws a ddywedodd y gallai ei chadair olwyn trydan chwythu'r bws i fyny.
Roedd Elaine Powell wedi bod yn disgwyl gyda'i mab 13 oed, Aaron, am y bws o Ddinbych i'r Rhyl, ond gwrthododd y gyrrwr iddi ddod ar y bws oherwydd fod gan ie chadair olwyn fatris a allent “chwythu'r bws i fyny”.
Mae Elaine, o Ddinbych, a gafodd strôc naw mlynedd yn ôl yn ystyried erlyn Arriva am wahaniaethu ar sail anabledd.
“Roeddwn wedi fy syfrdanu pan ddigwyddodd, ond nid yw hyn y tro cyntaf i mi orfod disgwyl am fws llawr isel,” meddai'r cyn-weithiwr cymdeithasol 40 oed.
“Pan ddaeth y bws yma roeddwn wedi bod yn disgwyl am amser hir. Ceisiodd dynes oedd yn sefyll wrth fy ochr gael y gyrrwr i adael i mi ddod ar y bws ond dywedodd nad oedd am fy adael ar ei fws oherwydd gall fy nghadair chwythu'r bws i fyny.
“Ar ôl hyn gyrrodd i ffwrdd, gan adael y ddynes a fy mab yn yr oerni wrth ochr y lôn. Roedd hyn yn warthus. Pam fuasai fy nghadair yn chwythu'r bws i fyny?”
Dywedodd Shereen Lunt, y ddynes oedd wrth ochr Elaine: “Roedd y dyn yn anfoesgar ac yn gwrthod gadael hi ar y bws.”
Mae batris cadeiriau olwyn yn cael eu hystyried yn beryglus ar awyrennau, on nid ydynt yn cael eu hystyried fel perygl ar dir.
Fel cyn-ymddiriedolwraig o'r Denbighshire Disability Forum, mae Elaine wedi cefnogi hawliau trigolion anabl y sir, ac er ei bod yn ymwybodol o ddigwyddiadau cynt yn ymwneud â chadeiriau olwyn trydan, dywedodd nad oedd unrhyw fodd y gallai'r batris fod yn beryglus ar fws.
“Mae Arriva i fod i ddarparu bwsiau gyda lloriau isel i dderbyn pobl mewn cadeiriau, ond naw gwaith allan o 10 mae'r bws yn cyrraedd gyda grisiau. Nid ydynt wedi gwneud dim i wneud gwahanaeth ers pasio'r Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd pedair mlynedd yn ôl.
Dywedodd llefarwraig ar ran Arriva: “Rydym yn ymddiheuro am y gofid mae'r digwyddiad yma wedi ei achosi i Mrs Powell. Mae'r polisi'n glir ar faterion yma; caniateir ar y bws unrhyw gadair olwyn sy'n gallu ei roi'n saff yn y lle ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae hyn yn cynnwys cadeiriau olwyn trydan gyda batris. Rydym yn archwilio'r digwyddiad yn llawn gyda'r gyrrwr.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych eu bod wedi buddsoddi i ofalu fod llawer o safleoedd bws Arriva'n addas ar gyfer teithwyr anabl, ond mater i Arriva yw pan na adewir teithiwr ar fws.