Jan 6 2009 Gan Kelly Fenna
Neithiwr talwyd teyrnged i fachgen 18 oed a gafwyd wedi ei grogi ar dir ei gyn-ysgol ar Ddydd Calan.
Gadawyd blodau wrth waelod y goeden lle cafwyd hyd i Ryan Gwyn Childs yn Ysgol y Berwyn, y Bala.
Roedd Ryan, o Faes Tegfryn, y Bala, y gyntaf o ddau o ddynion ifanc i farw yn y dref mewn tri diwrnod.
Bu rhaid torri dyn arall, a enwyd yn lleol fel Danny Doyle, o goeden ar stad ddiwydiannol y Bala ar Ddydd Sul. Roedd Mr Doyle, a gredir i fod yn ei arddegau hwyr, hefyd o'r ardal ac yn gyn-ddisgybl o'r ysgol.
Mae'r heddlu pwysleisio nad oes dim i awgrymu fod cysylltiad rhwng y marwolaethau, a dywedant nad ydynt yn credu fod trosedd tu ôl i'r digwyddiadau.
Mae'r crwner Dewi Pritchard Jones wedi agor ac oedi cwest i farwolaeth Ryan, a disgwylir canlyniadau profion post-mortem ar Mr Doyle heddiw.
Ddoe dywedodd Dewi Davies, prifathro Ysgol y Berwyn y bydd gwasanaeth arbennig yn yr ysgol gyda'r Rheithior yn bresennol, i hysbysu'r plant o'r digwyddiad ac i gynnig cymorth iddynt.