Jan 7 2009 Gan Eryl Crump
Gyrrwyd car am hanner milltir yn y cyfeiriad anghywir ar hyd yr A55 ar ôl mynd i mewn i gar arall yn y tywydd rhewllyd.
Ar ôl taro'r car arall, a oedd mewn ciw o draffig, gwnaeth y gyrrwr dro pedol, a gyrrodd i gyfeiriad yr allanfa agosaf.
Digwyddodd hyn ar y ffordd i gyfeiriad y dwyrain ger Pentre Helygain am 10.25 bore Llun.
Mae'r heddlu'n edrych am y dyn, oedd yn gyrru Ford Mondeo piws tywyll, ar ôl y digwyddiad a ddyrchrynodd y cwpwl yn y car arall.
Cafodd Elen Fletcher, a'i gŵr Bill, o Gaernarfon, anafiadau ysgafn, ond bu llawer o ddifrod i'w car.
Dywedodd Elen wrth y Daily Post ei bod yn credu eu bod yn lwcus iawn i fod dal yn fyw.
Roeddynt yn mynd i gyfeiriad Caer, ac newydd fynd heibio cyffordd 32 yn Nhreffynon, pan fu rhaid iddynt arafu oherwydd y ciw o draffig.
Y peth nesaf tarawyd eu car gan gar arall i'r tu ôl a gwthiwyd i'r car o'r blaen. Yna trodd y car piws tywyll, bron yn ddu, gyda rhif car tramor, o gwmpas, a gyrrodd i'r cyfeiriad anghywir.
Dywedodd Elen: “Roedd arwyddion ar yr A55 yn rhybuddio gyrrwyr i arafu oherwydd y perygl o sgidio. Roedd y traffig mewn ciw oherwydd damwain arall o'u blaen. Nid oedd y gyrrwr yma yn cymryd unrhyw sylw o'r sefyllfa.”
Neithiwr dywedodd Heddlu gogledd Cymru eu bod yn edrych ar ffilmiau o'r camerâu cylch cyfyng ar yr A55 yn ardal Treffynon i geisio cael hyd i'r gyrrwr.