Lladrad olew yn achosi ysgol i gau

Bu rhaid i ysgol yn Sir Ddinbych gau am ddeuddydd ar ôl i ladron ddwyn olew ynystod y tywydd rhewllyd pan gostyngodd y tymheredd ar hyd Gogledd Cymru i -10 gradd.

Cymerwyd gwerth cannoedd o bunnoedd o olew, a ddefnyddiwyd i gynhesu Ysgol Rhewl ger Rhuthin, gan atal 50 o blant rhag mynd i'r ysgol.

Daeth y lladrad ar adeg pan gaewyd 18 o ysgolion eraill yng Ngogledd Cymru oherwydd rhew ar y maesydd chwarae a maesydd parcio, a disgynodd y tymheredd i -10.1 gradd yng Nghapel Curig.

Caewyd Ysgol Rhewl ddoe ar ôl y lladrad, ac my fydd ar gau heddiw tra atgyweirir y tanc olew.

Dywedodd Tania Armstrong-Owen, prifathrawes yr ysgol: “Ni allaf gredu pa mor dideimlad yw'r bobl yma.

“Mae'r olew yn hanfodol i gynhesu'r ysgol a beth sy'n gwneud y drosedd yn waeth yw'r ffaith ein bod yn mynd trwy'r adaeg oeraf o'r gaeaf hyd yn hyn ac mae'r lladron yn dangos dim ystyriaeth o iechyd a lles y plant a'r staff.”

Llenwir y tanc olew, sy'n dal 2,500 litr o olew, dwywaith y flwyddyn am gost 0 £2,000.

Mae'r heddlu'n apelio am dystion i'r digwyddiad, ac yn gofyn iddynt eu cysylltu ar 0845 607 1001 (Cymraeg) neu 0845 607 1002 (Saesneg).