Trac beicio fel cofeb i bedwar a laddwyd mewn trasiedi

Mae tad i feiciwr a laddwyd mewn damwain erchyll gyda thri arall, wedi sôn am ei obeithion o adeiladu cofeb addas cyn diwedd y flwyddyn.

Tair mlynedd yn union cyn heddiw lladdwyd pedwar aelod o Rhyl Cycling Club, Maurice Broadbent, 61, Dave Horrocks, 55, Wayne Wilkes, 42, a Thomas Harland, 14 oed, pan tarawyd hwy gan gar a sgidiodd ar rew du ar y lôn o Abergele i rhuddlan.

Ddoe dywedodd Jon Harland, tad Thomas, ei fod yn ffyddiog y bydd gan y clwb yr arian i allu adeiladu trac beiciau yn Y Rhyl.

Roedd y pedwar beiciwr yn adnabyddus ac yn ennyn parch gan y gymuned a beicwyr, a dechreuwyd cronfa er cof amdanynt. Roeddent wedi bwriadu agor trac beic cilometr o hyd ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, ond gwrthododd Cyngor Chwaraeon Cymru roi cyllid at y cynllun, am eu bod eisoes wedi talu £7.5 miliwn tua trac beic yng Nghasnewydd.

Ond mae gobeithion y gall adeiladu'r trac cyntaf o'i fath ar safle Glan Morfa yn Y Rhyl.

Roedd Jon gyda'r clwb pan ddigwyddodd y ddamwain, a thorrodd ei goes. Mae'n rwan yn swyddog datblygu yng Ngogledd Cymru i Welsh Cycling.

Dywedodd y bydd y trac ar safle Glan Morfa yn gofeb addas i'r beicwyr a fu farw.

Roedd yn rywbeth y bu Maurice Broadbent yn ymgyrchu amdano 10 mlynedd yn ôl, ac mi fydd y cynllun yn cynnwys cylchfan cilomedr o hyd heb draffig, a darn syth 250 medr ar y diwedd, a thrac BMX 400 medr. Mi fydd yn costio £750,000 ac mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gefnogol,a gyda chyllid o ffynhonellau eraill, ni ddisgwylir iddo gostio dim i'r trethdalwyr.