Ymddiswyddo 260 o staff wrth i ffatri electroneg gau

Mi fydd 265 o bobl yn colli eu swyddi ar Ynys Môn wrth i ffatri electroneg gau, cadarnhawyd ddoe.

Daeth y penderfyniad ar derfyn 90 diwrnod o ymgynghori gan Eaton, yng Nghaergybi, gyda gweithwyr, undebau a grwpiau llywodraeth leol. Mi fydd cau'r ffatri yn digwydd mesul camau rhwng Mawrth a Rhagfyr eleni.

Dywedodd David Sturge, llefarydd y cwmni: “Cyhoeddwyd Hydref llynedd fod posibilrwydd fydd y ffatri'n cau, yn sgil ymdrechion i wella effeithlonrwydd a'r gallu i gystadlu ledled y byd. Daeth hefyd yn sgil asesiad o sut i integreiddio'r Moeller Group yn y ffordd orau i'r gweithrediadau sydd eisoes yn bodoli.”

Ni chafywd hyd i ddefnydd arall i'r ffatri na'r gweithlu yn ystod y cyfnod o ymgynghori, ond dywedodd Mr Sturge fod y cwmni'n parhau i drafod gyda'r Cynulliad y posibilrwydd o gadw gweithlu bychan i drin materion wedi gwerthiant.

Ychwanegodd y bydd y cwmni'n parhau i gynnig cefnogaeth gyda'u hymdrechion i ail-hyfforddi ac edrych am waith.

Mae'r cwmni Americanaidd sydd biau'r ffatri eisiau symud y cynhyrchu i ffatri fawr wedi ei hawtomeiddio yn Awstria, gan arbed traean o'r costau cynhyrchu.