Jan 14 2009 by Eryl Crump, Daily Post
TALWYD teyrngedau i ddau o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru bu farw y penwythnos diwethaf.
Roedd yr awdur plant poblogaidd T Llew Jones yn 93 oed, a’r bardd coronog Eluned Philips yn 94.
Disgrifiwyd T Llew Jones gan yr Archdderwydd Dic Jones fel “un o eiconau’r genedl”.
Eluned Phillips oedd y ferch gyntaf i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – yn gyntaf yn 1967 ac wedyn yn 1983, gyda phryddest am Ryfel y Falklands yn gefndir iddi.
Meddai’r Archdderwydd: “Bydd y genedl gyfan yn gweld eu heisiau. Bydd llawer ohonom yn teimlo fel petawn yn edrych i gyfeiriad y silff ben tân ac yn gweld un o’r llestri gorau ar goll.
“Dwi’n siwr bod ’na blant sy’n medru enwi ei lyfrau bob un. Roedd e’n deall plant ac yn uniaethu â nhw. Hyd yn oed yn ei flynyddoedd olaf, pan oedd rhyw blentyn yn mynd i Ddôl Nant i gwrdd â’i arwr, byddai’r oedran yn llithro oddi ar ei ysgwyddau.”
Meddai Mr Jones am Eluned Phillips: “Hi oedd aelod hynaf yr Orsedd ac yn sicr yr un mwyaf ffyddlon. Roedd hi’n gymeriad. Mae ei hunangofiant, The Reluctant Redhead, yn ddiddorol iawn.
“Roedd ganddi y ddawn o fod yn ddirgelaidd a chroesawgar ar yr un pryd.”
Meddai cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru Gwerfyl Pierce Jones: “T Llew oedd brenin llenyddiaeth plant yng Nghymru.
“Bu’n ysgrifennu’n ddi-dor trwy ail hanner yr 20fed ganrif - a chreodd gorff o lenyddiaeth sy’n parhau i roi pleser a gwefr i blant heddiw.
“Roedd hefyd yn gyfathrebwr heb ei ail – ac yn storïwr penigamp. Dotiai at blant, ac roedd plant yn dotio ato yntau.
“Bu’n gyfaill triw i’r Cyngor Llyfrau ar hyd y blynyddoedd ac fe welwn golli ei gyfraniad a’i gwmni’n fawr iawn.”
Cafodd T Llew Jones ei eni ym Mhentre-Cwrt, Llandysul yn 1915. Wedi bron i 35 mlynedd fel athro ysgol gynradd trodd ei law at fod yn lenor llawn amser gan ganolbwyntio ar farddoni ac ysgrifennu llyfrau i blant.
Enillodd y Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol Glyn Ebwy 1958 ac yng Nghaernarfon y flwyddyn ganlynol. Roedd yn un o feistri’r canu caeth a bu’n llywydd y Gymdeithas Gerdd Dafod ers ei sefydlu yn 1976.
Cyhoeddodd dros 50 o lyfrau, yn amlach na pheidio wedi eu seilio ar gymeriadau hanesyddol fel Barti Ddu, Siôn Cwilt a Twm Siôn Cati. Ysgrifennodd rhan fwyaf ohonynt ar deipiadur hen ffasiwn.
Enillodd un o’i lyfrau enwocaf, Tân ar y Comin, wobr Tir na n-Og ac enillodd y wobr fwy nag unwaith. Derbyniodd hefyd wobr Mary Vaughan Jones yn 1991 am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant yng Nghymru.
Cafodd nifer o’i gyfrolau eu cyfieithu i’r Saesneg ac fe gafodd Tân ar y Comin a Dirgelwch yr Ogof eu haddasu i’r sgrîn fach.
Derbyniodd radd anrhydeddus gan Brifysgol Bangor i gydnabod ei gyfraniad enfawr i lenyddiaeth plant yn 1977.
Meddai: “Dyma ryw ddawn gês i pan oeddwn i’n fachgen bach – dawn ysgrifennu. ‘Dwi di sgwennu llawer o lyfrau, ’dwi ddim wedi gwneud fy ffortiwn fel awdures Harry Potter, ond dwi wedi cael miloedd o lythyrau gan blant, a dyna’r cyfoeth dwi’n gyfri o ysgrifennu llyfrau.”
Yn ogystal â mwynhau llenydda roedd hefyd yn mwynhau ei wyddbwyll. Ysgrifennodd yr unig lyfr yn Gymraeg i egluro’r gêm.
Cyhoeddodd ei hunangofiant, Fy Mhobol I, yn 2002.
Ganed Eluned Phillips yng Nghenarth yn 1914. Ni wnaeth erioed adnabod ei thad gan iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Mawr o fewn wythnosau i’w geni.
Aeth i goleg yn Llundain ond ni pharhaodd gyda’i hastudiaethau.
Trwy gysylltiad teuluol symudodd i fyw a newyddiadura ym Mharis lle daeth i gysylltiad â Maurice Chevalier, Pablo Picasso ac Edith Piaf ymhlith eraill.