Cyngor sir yn gwneud mwy o doriadau i arbed £500 mil.

Mae Cyngor Sir Ddinbych am gwtogi hanner miliwn pellach o bunnoedd o'r gwariant ar wasanaethau.

Heddiw mi fydd cynghorwyr yn trafod mwy o arbedion amhoblogaidd, gan gynnwys cau'r pwll padlio Cae Ddol yn Rhuthun, a llyfrgell symudol Y Rhyl.

Mae'r cyngor yn beio cytundeb gwael gan y Cynulliad am eu gadael yn brin.

Mae'r arbedion diweddaraf yn dilyn rhes o gwtogiadau o adran amgylcheddol y cyngor sy'n cynnwys tynnu gwelyau blodau i fyny, gadael glaswellt heb ei dorri a lleihau glanhau'r strydoedd.

Mae'r Rhyl Suncentre hefyd yn y fantol wrth i swyddogion geisio penderfyny beth i'w wneud onono.

Dywedodd Brian Blakeley, cynghorydd o'r Rhyl y bydd trigolion yn flin ac yn teimlo eu bod wedi eu gadael os caniateir i rannau o Sir Ddinbych fynd yn drefydd anghyfannedd.

Dywedodd Chris Ruane, AS Dyffryn Clwyd: “Cafodd Sir Ddinbych well grant gan y Cynulliad nag unrhyw awdurdod arall yng Ngogledd Cymru. Nid wy'n deall pam mae'n rhaid iddynt wneud newidiadau mor llym.

“Mi ddylient edrych ar y gwasanaethau y maent yn eu darparu a gwneud arbedion rhesymol na fydd yn amharu ar y gymuned.”

Related Tags