Jan 19 2009 Gan Eryl Crump
Bu dyn yn ymladd am ei fywyd mewn ysbyty ddoe ar ôl i'w gar fod mewn damwain ar lôn brysur ar fore Sadwrn.
Galwyd criwiau argyfwng i'r ffordd ymadael ar gyffordd 24 o'r A55, ger Pensarn, Abergele tua 6.45 y bore.
Nid yw 'r heddlu wedi cyhoeddi enw ac oed y dyn, a oedd yn sownd mewn car Renault Clio glas, a oedd wedi mynd i lawr arglawdd.
Rhyddhawyd o'r car gan ddiffoddwyr tân, ac aethpwyd ag ef i ysbyty gyda anafiadau i'w ben a'i frest. Neithiwr dywedodd yr heddlu fod ei gyflwr yn ddifrifol.
Ymddengys fod y car wedi taro coeden ac wedi mynd yn rhwym mewn perthi, ond ni fu angen offer torri i'w ryddhau.Mae'r heddlu'n archwilio achos y ddamwain ac yn gofyn am unrhyw dystion i'r digwyddiad.
Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 0845 607 1001 (Cymraeg), neu 0845 607 1002 (Saesneg), neu Crimestoppers ar 0800 555111.