Jan 19 2009 Gan Eryl Crump
Bu cwpl mewn oed yn ffodus i ddianc ar ôl i wyntoedd cryfion chwyth simdde o'u tŷ.
Daeth y corwyntoedd, gyda gwthoedd 90 milltir yr awr, â glaw twm, enwedig ar arfordiroedd agored o gwmpas Gwynedd, Môn a Cheredigion.
Dywedodd Mavis Johnson, 79 oed, ei bod hi a'i gŵr, Joseph, yn eu cartref yn Ffordd Erw Fawr, Henryd, ger Conwy ar brynhawn Sadwrn, pan chwythwyd y simdde.
Dywedodd: “Roedd Joes wedi rhoi'r car yn y garej ychydig funudau cynt. Pe bae wedi bod yn hwyrach mi fuasai wedi bod allan pan ddisgynodd y simdde.
“Clwysom sŵn fel gwynt, ac wedyn sŵn fel tarannu, ond y simdde'n bowndio i lawr y to oedd yr achos.”
Mi fydd atgyweiriadau brys yn cael eu cyflawni ar y tŷ heddiw.
Ar yr Wyddfa bu dynes 28 oed, na enwyd, yn ffodus i ddioddef anafiadau ysgafn ar ôl iddi gael ei chwythu o'i thraed mewn corwynt, ychydig cyn 3.30 y prynhawn.
Dywedodd Ian Henderson, ysgrifennydd tîm achub Llanberis, fod y gwyntoedd mor gryf fel nad oedd yn bosib i'r awyren ei chodi o'r mynydd, a bu rhaid i aelodau o'r tîm ei chario i lawr at le y gallwyd ei chodi i fyny cyn mynd â hi i Ysbyty Gwynedd.
Torrwyd y cyflenwad trydan i 4,000 o gartrefi ar ddydd Sadwrn, ond ail-gysylltwyd y rhan fwyaf o'r rhain yn fuan, er bu 800 o dai heb drydan dros nos.
Bu rhaid i'r gwasanaethau argyfwng symud coed wedi disgyn ar nifer o lonydd ar nos Sadwrn, yng Ngwynedd ac rhwng Porthaethwy a Biwmares.