Jan 20 2009 Gan Steve Bagnall
Mae teulu'n ffodus i fod yn fyw ar ôl i dân ddinistro siop cebabau yn hwyr ar nos Sul.
Bu pump criw tân yn ymladd y tân yn y Star Kebab and Burger Shop yn Stryd Fawr, Bangor tua 1.30 y bore.
Dihangodd y tad gyda'i ddau fab, 10 ac 18 oed, a'i ferch 19 oed, wrth i fŵg ymdonni trwy'r fflat.
Aethpwyd â'r ferch i Ysbyty Gwynedd yn dioddef effeithiau anadlu mŵg, a throsglwyddwyd hi i ysbyty yn Lerpwl yn hwyrach ymlaen.
Roedd archwilwyr yn yr adeilad ddoe, yn ceisio darganfod achos y tân.
Roedd y criwiau'n dal i dampio'r lle ac roedd peirianwyr adeiladu'n archwilio diogelwch yr adeilad.
Dywedodd Ian Williams o'r Gwasanaeth Tân: “Roedd y siop cebabau wedi cau am y noson a datblygodd y tân yn gyflym iawn trwy'r adeilad.
“Bu rhaid i'r criwiau weithio mewn sefyllfa hynod o anodd ac yn boeth i sicrhau fod pawb wedi dianc yn saff o'r fflat ac o'r siop.
“Unwaith roeddem yn siwr o hyn diffoddwyd y tân yn fuan.”
Nid oedd alarwm mŵg yn y fflat.
Dinistrwyd y siop cebabau, ac effiethwyd ar y busnesau cyfagos gan y mŵg. Mi fydd y North Wales Society for the Blind eisiau lleoliad dros dro i barhau'r gwasanaeth i'r deillion, ond bu swyddfa yswiriant Swinton yn agored drwy'r dydd.