May 22 2009
Neithiwr roedd galwadau ar drefnwyr Gŵyl Y Faenol i ddweud pwy fydd yn ymddangos, ac i gadarnhau y bydd yr ŵyl yn cymryd lle. Fel arfer bydd tocynnau i'r ŵyl, sy'n denu tua 25,000 o bobl i weld rhai o'r sêr mwyaf yn perfformio dros bedair noson, ar werth erbyn Ebrill.
Ond hyd yn hyn nid yw manylion yr ŵyl eleni wedi cael eu cyflwyno.
Mae'r tawelwch wedi achosi pryderon ymysg gwestai a phenaethiaid twristiaeth fod yr ŵyl am fod yn llai nag arfer.
Dywedodd Dewi Davies o Dwristiaeth Gogledd Cymru fod hi'n braidd yn hwyr i fedru gwerthu'r nifer arferol o docynnau. Mi fuasai'r ardal yn brysur oherwydd gŵyl y banc beth bynnag, ond mae'r Faenol wedi bod yn bwysig iddenu pobl i'r ardal.
Dywedodd un perchenog gwesty yng Nghaernarfon fod sibrydion y gall yr ŵyl gael ei gwtogi i un diwrnod, ac fe all hynny arwain at bobl ganslo eu ymweliad.
Roedd gŵyl wedi denu dim ond 14,000 o bobl ac wedi gwneud colled am y tro cyntaf, ac roedd Bryn Terfel wedi dweud llynedd fod oherwydd nad oedd digon o nawdd, y gall yr ŵyl fod yn y fantol.
Mae trafodaethau wedi bod gyda'r Cynulliad i drafod cyllid, ond nid oes manylion pendant wedi eu datgelu, ac nid oedd neb ar gael neithiwr i roi sylwadau ar beth sy'n digwydd.