Jun 8 2009
Mae teithwyr wedi galw am fwy o gamerau teledu cylch cyfyng mewn gorsafoedd er mwyn arbed troseddau. Yn ôl ffigyrau a ryddhawyd gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, gorsaf Y Rhyl yw'r un gwaethaf gyda 19 wedi eu harestio yn y 12 mis diwethaf am droseddau .
Dros y pum mlynedd diwethaf arestwyd 108 yng ngorsaf Y Rhyl, i'w gymharu â un yn Llanfairfechan, pump yn Abergele ac 17 yn Y Fflint.
Ond mae'r nifer o arestiadau yn Y Rhyl wedi gostwng i'w gymharu â blynyddoedd cynt, oherwydd defnydd o gamerau cylch cyfyng a mwy o swyddogion heddlu.
Dros yr yn cyfnod arestwyd 21 yng ngorsaf Prestatyn, 28 ym Mae Colwyn, 40 yng ngorsaf cyffredinol Wrecsam, 43 ym Mangor a 62 yng Nghyffordd Llandudno.
Dywedodd yr heddlu fod gostyngiad o 20% yn y nifer o droseddau ar y rheilffordd, drwy eu gwaithgareddau patrolio, a chamerau cylch cyfyng.
Dywedodd Bob Slade o Abergele, sy'n defnyddio'r trenau'n aml, ei fod yn credu y dylid gwneud llawer mwy i helpu teithwyr i deimlo'n ddiogel. Er ei fod yn ddyn 45 oed, mae'n teimlo fod disgwyl yng ngorsafoedd Y Rhyl a Chyffordd Llandudno'n yn brofiad annifyr, gyda phobl wedi meddwi a phlant o gwmpas, a seddau wedi torri ar y platfform.
Dywedodd yr AC Ann Jones fod pethau'n well gyda mwy o heddlu o gwmpas, ond dylid gwneud mwy i wneud gorsaf Y Rhyl yn ddiogelach.