Railway
Bu iobs yn peryglu bywydau teithwyr a gweithwyr rheilffordd drwy osod brics mewn bag plastig, a'i hongian o bont Rockcliffe yng Ngehi Connah, mewn modd y gallai falu ffenest trên, a oedd yn teithio o Landudno i Fanceinion tua 8.40 nos Sadwrn.
Awr a hanner yn ddiweddarach ymosododd y gang eto gan hongian bricsan arall o'r bont, gan falu ffenestr trên yn teithio o Gaergybi i Crewe, tua chwarter wedi deg y nos.
Ddoe, am hanner awr wedi hanner dydd, bu ymosodiad arall pan daflwyd brics o'r un bont at ffenestr cab y gyrrwr, ar drên yn teithio o Gaer i Gaergybi.
Dywedodd Heddlu Trafnidaieth Prydain y gall gyrrwyr y tri trên fod wedi cael eu lladd, ac roedd y digwyddiadau wedi creu trawma i'r gyrrwyr.
Petai'r brics wedi disgyn ar y cledrau fe all y trenau fod wedi dod oddi ar y cledrau, gan beryglu bywydau.
Amharwyd ar wasanaethau rheilffordd yn sgil yr ymosodiad ddoe gan greu gohiriad o awr i'r teithwyr ar y trên a dargedwyd ddoe, a gohiro deg o drenau eraill ar y rhwydwaith.
Gall tystion gysylltu gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 405050 neu ffonio Crimestoppers ar 0800 555111.