Ddoe roedd milwyr yn dod i adnabod yr aelod diweddaraf o'r fyddin, sef gafr y catrawd.
Aeth 30 o filwyr o fataliwn cyntaf y Royal Welsh, o'r Dale Barracks yng Nghaer, am dri o'r gloch y bore, ar berwyl o edrych am afr addas o Ben y Gogarth, yn Llandudno, gyda chaniatad penaethiaid y parc.
Roeddynt wedi gobeithio y bydd y geifr yn fwy blinedig, ac felly'n haws eu dal, ond synwyd pan welwyd eu bod yn fywiog.
Dywedodd y Lance Corporal Ryan Arthur:" Codasom am dri o'r gloch y bore er mwyn bod yma erbyn hanner awr wedi pedwar.
"Roedd gennym bobl ar draws ochr y bryn, ond methasom ddwywaith yn ein ymdrechion i gasglu geifr fanyw. Roedd pobl yn disgyn, ond caswom hywl."
Enwir y gafr newydd yn Billy, i gadw at y traddodiad. Mae'r Billy cynt nawr yn Sŵ Whipsnade.
Dywedodd Capten Nick Zoreb fod y gafr wedi derbyn y rhif catrawd o 25142301, ac mi fydd yn cael hyfforddiant i ddygymod â sŵn y drymiau a cherbydau, ac i arwain gorymdeithiau.