Swyddog heddlu'n dwyn £8,000 o'i fam

Ddoe cyfaddefodd y heddwas Chris Wilby ei fod wedi dwyn £7,800 o'i fam.

Roedd mam Chris Wilby wedi cytuno i roi £1,000 iddo i'w allu i dalu arian i'w gyn-wraig fel rhan o setliad ysgariad, a rhoddwyd siec gwag iddo.

Clywyd yn Llys yr Ynadon yn Llandudno, y digwyddodd y lladrad gyntaf pan wnaeth yr heddwas 40 oed y siec i'r swm o £1,200.

Roedd Gwyneth wilby yn ei 70au, ac oherwydd ei chyflwr iechyd roedd yn derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, ac yn gaeth i'w chartref.

Rhoddodd ei cherdyn banc a'i rhif PIN i'w mab, iddo allu godi arian i siopa iddi.

Ond heb iddi wybod, yn Chwefror llynedd dechreuodd dynnu allan arian ychwanegol iddo'i hun, i gyfanswm o £7,600.

Pan ddarganfuwyd y lladradau ym mis Mawrth, nid oedd gan Mrs Wilby a'i merch unrhyw syniad pwy oedd wedi lladrata. Pan glwyodd yr heddwas fod y lladrad wedi ei gofnodi ar fas ddata'r heddlu, cyfaddefodd i'w chwaer, gan ofyn iddi beidio mynd â'r achos yn bellach.

Dywedodd yr erlynydd fod hyn yn ladrad sylweddol ar berson mewn sefyllfa anfanteisiol.

Mae Wilby, o Lloyd Street, Llandudno, wedi cyfaddef y lladrad, ac ymddiswyddo o'r heddlu. Roedd wedi bod drwy ysgaraid trawmatig, ac yn dioddef trafferthion yn ei waith.

Mae Mrs Wilby wedi newid ei hewyllys fel mai plant Wilby fydd yn etifeddu ei siar o'i hetifeddiaeth.