Dynes yn dychwelyd o Awstralia i edrych am ei brawd

Mae amser yn brin i chwaer sy'n ceisio cael hyd i'w brawd cyn iddi ddychwelyd i Awstralia.

Mae Joan Dunning yn edrych am Norman Green, nad ydy wedi ei weld ers 50 mlynedd. Credir ei fod yn byw gyda'i wraig Shirley, rhywle yng Ngogledd Cymru.

Mae Jaon, a'i g?r John, o Awstralia, ar eu gwyliau yng Nghaernarfon, ac mi fyddent yn mynd i Lundain yn fuan.

Tro diwethaf i Joan, a anwyd yn Lerpwl, weld ei hanner-brawd, sydd gyda'r un fam, oedd pan oedd yn byw yn Neston.

Ymfudodd Joan i Awstralia yn 1968, ac yn y diwedd collwyd y cysylltiad rhyngddynt.

Dywedodd Joan mai peiriannydd oedd Norman yn ddiweddarach, a bu'n reolwr ar safle dihalltu dŵr yn Jedda, yn Sawdi Arabia.

"Hyd yn hyn mae fy ymdrechion i gael hyd i Norman Green a'i wraig Shirley wedi bod yn aflwyddiannus. Nid yw'r deddfau diogelu data yn y wlad yma wedi bod yn gymorth i ni.

"Beechways Drive yn Neston, Cilgwri, yw'r cyfeiriad diweddaraf y gwyddaf amdano. Ond deallaf ei fod wedi symud yn y 12 mis diwethaf i rywle yng Ngogledd Cymru."

Tra mae'n gobeithio am newyddion mae hi wedi bod yn mwynhau ei gwyliau yng Nghaernarfon.

Ganwyd yn Anfield, ac yn ystod ei phlentyndod bu'n mynd ar wyliau i Gwm y Glo. Mae hi'n byw rwan gyda'i gŵr mewn cartref modur rhwng Melbourne ac Adelaide.